Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022



Croeso i'r microwefan ar gyfer Arolwg Sgiliau Cyflogwyr DU 2022 yr Adran Addysg (DfE)



Beth yw'r Arolwg Sgiliau Cyflogwyr?

Yr arolwg hwn, sydd wedi ei seilio ar fwy na 86,000 o gyfweliadau ffôn gyda chyflogwyr yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, yw un o'r arolygon cyflogwyr mwyaf yn y byd.

Mae'r arolwg yn hanfodol i waith yr Adran Addysg a'i phartneriaid o fewn llywodraethau lleol ac yn y llywodraeth genedlaethol. Mae'r arolwg yn casglu gwybodaeth am yr heriau o ran sgiliau sy'n wynebu cyflogwyr yn eu gweithluoedd ac wrth recriwtio, natur unrhyw hyfforddiant a ddarperir, a’r ymwybyddiaeth a’r gyfranogaeth mewn amrywiol fentrau a rhaglenni. Dyma fydd yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr cyntaf drwy’r DU gyfan ers y pandemig COVID-19 ac ymadawiad ffurfiol y DU â’r Undeb Ewropeaidd. Gwnaethpwyd yr Arolwg Sgiliau Cyflogwyr diwethaf yn 2019 a gallwch weld canlyniadau'r arolwg hwn ar wefan GOV.UK: Employer Skills Survey 2019: Summary report (publishing.service.gov.uk)

Gallwch weld canlyniadau Arolwg Sgiliau Cyflogwyr blaenorol yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban: Scottish Employer Skills Survey 2020 - gov.scot (www.gov.scot). Mae’r gwaith maes ar gyfer yr arolwg yn digwydd rhwng misoedd Mai a Rhagfyr 2022 gan IFF Research, BMG Research ac Ipsos MORI ar ran yr Adran Addysg, Llywodraeth yr Alban, Llywodraeth Cymru, ac Adran yr Economi Gogledd Iwerddon.

Mae llwyddiant yr arolwg yn ddibynnol ar barodrwydd y cyflogwyr i gymryd rhan. Os cânt eu dethol, gall y cyflogwyr ddewis amser sy'n gyfleus iddynt ar gyfer y cyfweliad. Os ydych yn cyfranogi neu os ydych yn ystyried cymryd rhan, mae rhagor o wybodaeth ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin. Bydd canlyniadau'r arolwg ar gael yn gyhoeddus ar wefan GOV.UK yn 2023. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg cewch ddewis a ydych eisiau derbyn adroddiad cryno o ganlyniadau'r arolwg.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu os ydych angen cysylltu â ni ynglŷn â'r arolwg, cliciwch yma