![]() | |
| |
Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022 Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Arolwg Sgiliau Cyflogwyr y DU 2022 Pwy ydym ni Y tîm Dadansoddi Polisi Sgiliau, sy’n rhan o’r Adran Addysg (DfE), sy’n gwneud y gwaith hwn. At ddibenion deddfwriaeth diogelu data, yr Adran Addysg yw’r rheolydd data ar gyfer y data personol a brosesir yn rhan o’r arolwg. Rolau At ddibenion y gwaith hwn, o dan ddiffiniadau Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU, dyma rôl pob rhan sy’n cyfranogi:
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth Bydd y prosiect yn casglu enw a chyfeiriad e-bost yr unigolyn a ddynodir o fewn y sefydliad fel y person yr ystyrir eu bod yn y sefyllfa orau i ymateb i’r arolwg. Mae casglu’r enw’n gadael i ni weinyddu apwyntiadau dilynol yn effeithlon, a bydd y cyfeiriad e-bost yn gadael i ni anfon gwybodaeth yn uniongyrchol i’r ymatebwr yng nghyd-destun yr astudiaeth. Ni fydd yr enwau a'r cyfeiriadau e-bost a gesglir yn cael eu storio yn yr un cronfeydd data â’r ymatebion i’r arolwg. Efallai bod eich cyflogwr wedi rhannu eich manylion cyswllt sy’n gysylltiedig â’ch gwaith (cyfeiriad e-bost a rhif ffôn gwaith) gydag IFF Research o dan y telerau sydd wedi eu nodi mewn Hysbysiad Rhannu Data, er mwyn i IFF Research roi dolen i chi, drwy e-bost, i rannu’r rhif gorau ar gyfer cysylltu â chi i gwblhau’r arolwg dros y ffôn. Bydd IFF yn derbyn eich data personol o’ch ymateb i’r arolwg a bydd yn prosesu ac yn storio’n ddiogel y data a ddarparwch yn ystod yr ymchwil hwn ar ran yr Adran Addysg. Bydd eich atebion i’r arolwg yn cael eu cadw’n gwbl gyfrinachol, yn unol â Chod Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwil i’r Farchnad a GDPR y DU. Bydd canfyddiadau’r arolwg yn cael eu gwneud yn ddienw cyn cael eu hanfon gan IFF i’r Adran Addysg. Dim ond os byddwch chi’n rhoi eich caniatâd i gysylltiad data y bydd hi’n bosibl i’r Adran Addysg adnabod unrhyw sefydliad. Bydd y data a ddarparwch yn ystod eich cyfranogaeth yn yr ymchwil yn helpu’r Adran Addysg i gasglu gwybodaeth am yr heriau sgiliau y mae cyflogwyr yn eu hwynebu yn eu gweithluoedd cyfredol ac mewn cysylltiad â dod â gweithwyr medrus newydd i mewn, lefelau a natur y buddsoddiad mewn hyfforddiant a’r berthynas rhwng heriau sgiliau, gweithgareddau hyfforddi a strategaeth fusnes. Mae hefyd yn cynnwys pynciau fel recriwtio, darparu lleoliadau gwaith a phrentisiaethau. Mae cyfranogaeth pobl yn yr ymchwil yn hollol wirfoddol a gall cyfranogwyr dynnu allan unrhyw bryd. Bydd y data a gesglir yn cael ei storio’n ddiogel, bydd yr holl ymatebion i’r arolygon yn cael eu dadansoddi’n ddienw (ni fydd unrhyw enwau wedi eu cysylltu â nhw) ac ni fydd unigolion neu sefydliadau’n cael eu henwi mewn unrhyw adroddiadau. Ni fydd unrhyw fanylion cysylltu personol yn cael eu rhannu gyda’r rheolydd data, sef yr Adran Addysg, heblaw eich bod chi’n rhoi eich caniatâd i rywun ail gysylltu â chi i wneud rhagor o ymchwil. I gael rhagor o wybodaeth am IFF Research a’i Arolygon, dilynwch y ddolen hon: http://www.iffresearch.com/iff-research-gdpr-policy/. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am arferion y gwaith hwn, cysylltwch â thîm IFF Research ar yr e-bost yn: http://www.iffresearch.com/iff-research-gdpr-policy/ Natur eich data personol y byddwn yn ei ddefnyddio Bydd IFF Research yn defnyddio manylion cysylltu sy’n gysylltiedig â gwaith (rhifau ffôn/cyfeiriadau e-bost gwaith), fel y maen nhw wedi eu nodi uchod, i roi gwybodaeth gysylltiedig â’r astudiaeth yn uniongyrchol i chi drwy e-bost. Dyma’r categorïau o’ch data personol y byddwn yn eu defnyddio ar gyfer y prosiect hwn:
Er mwyn i’n defnydd ni o’ch data personol chi fod yn gyfreithlon, mae angen i ni gyflawni un amod (neu fwy) o’r ddeddfwriaeth diogelu data. At ddibenion y prosiect hwn, yr amodau perthnasol yw:
Weithiau mae angen i’r Adran Addysg sicrhau bod data personol ar gael i sefydliadau eraill. Gall y rhain gynnwys partneriaid ar gontract (yr ydym wedi eu cyflogi i brosesu eich data personol ar ein rhan) a/neu sefydliadau eraill (y mae angen i ni rannu eich data personol â nhw at ddibenion penodol). Pan fydd angen i’r Adran Addysg rannu eich data personol ag eraill, rydym yn sicrhau bod y rhannu data hwn yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ddiogelu data. At ddibenion y prosiect hwn, bydd IFF Research yn prosesu eich data ar ran yr Adran Addysg. Bydd eich data personol (h.y. enw a manylion cysylltu) yn cael eu rhannu yn yr amgylchiadau a ganlyn:
Wrth rannu data gyda’r Adran Addysg ac mewn adroddiadau wedi eu cyhoeddi, bydd IFF Research yn sicrhau, drwy’r broses o ffugenwi, na fydd unrhyw ddata personol adnabyddadwy’n cael ei rannu. Am faint o amser y byddwn ni’n cadw eich data personol Bydd IFF Research yn cadw data personol dim ond cyhyd ag y bydd ei angen at ddiben(ion) y darn hwn o waith, ac ar ôl hynny bydd yn cael ei ddinistrio’n ddiogel. Bydd hynny 12 mis ar ôl cwblhau gwaith maes yr arolwg (Rhagfyr 2023), i’r rheiny nad ydynt yn cytuno y caiff rywun ail gysylltu â nhw. Bydd data personol cyfranogwyr yr arolwg sy’n cwblhau’r arolwg ac yn dangos eu bod yn hapus i rywun ail gysylltu â nhw, yn cael ei storio’n ddiogel ac yn cael ei ddefnyddio dim ond at ddibenion ail gysylltu â nhw ar gyfer ymchwil cysylltiedig yn y ddwy flynedd ddilynol. Nodwch os gwelwch yn dda, o dan Erthygl 5(1)(b) GDPR y DU ac mewn cydymffurfiad â’r amodau prosesu data perthnasol, gellir cadw data personol am gyfnodau hirach o amser pan mae’n cael ei brosesu’n benodol at ddibenion archifo er budd y cyhoedd, ar gyfer ymchwil gwyddonol neu hanesyddol, ac at ddibenion ystadegol. Eich hawliau diogelu data Mae gennych yr hawl:
Os byddwch angen cysylltu ag IFF mewn perthynas ag unrhyw un o’r uchod, gwnewch hynny drwy’r cyfeiriad e-bost hwn: SkillsSurvey2022@iffresearch.com. < Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau diogelu data i’w weld ar wefan y Comisiynydd Gwybodaeth ar: https://ico.org.uk/for-organisations/guide-to-data-protection/guide-to-the-general-data-protection-regulation-gdpr/principles/ Mae gennych yr hawl i godi unrhyw bryderon gyda Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) drwy eu gwefan ar https://ico.org.uk/concerns/ < Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae’r Adran Addysg (y rheolydd data) yn trin gwybodaeth bersonol wedi ei chyhoeddi yma: https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-education/about/personal-information-charter Tynnu caniatâd yn ei ôl Pan fyddwn yn prosesu eich data personol gyda’ch cydsyniad chi, mae gennych yr hawl i dynnu’r caniatâd hwnnw yn ei ôl. Os byddwch yn newid eich meddwl, neu os ydych yn anhapus gyda’n defnydd o’ch data personol, gadewch i ni wybod drwy gysylltu â SkillsSurvey2022@iffresearch.com. Diweddarwyd ddiwethaf Efallai y byddwn angen diweddaru’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn gyfnodol, felly argymhellwn eich bod yn dod yn ôl i edrych ar yr wybodaeth hon o bryd i’w gilydd. Diweddarwyd y fersiwn hwn ddiwethaf ar 17/06/2022. Gwybodaeth am gysylltu Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y ffordd y bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei defnyddio, cysylltwch â ni ar https://www.gov.uk/contact-dfe a rhowch Employer Skills Survey 2022 fel cyfeiriad. I gyrraedd y Swyddog Diogelu Data (DPO) cysylltwch â ni drwy gov.uk a’i nodi at sylw’r ‘DPO’. | |
![]() ![]() ![]() |