Arolwg Sgiliau Cyflogwyr 2022



Cwestiynau cyffredin



Beth yw nod y prosiect?
Nod y prosiect yw casglu gwybodaeth am y sgiliau y mae cyflogwyr eu hangen, y sgiliau y maent yn brin ohonynt a'r hyfforddiant y maent yn ei gynnig. Amcan yr arolwg yw helpu'r Llywodraeth a sefydliadau eraill i helpu cyflogwyr, drwy ddeall yn well beth yw eu hanghenion o ran sgiliau, hyfforddiant a chyflogaeth.


Pam ydych chi angen siarad gyda mi?
Dewiswyd eich busnes chi ar hap i sicrhau ein bod yn cael darlun hollol gynrychiadol o'r holl fusnesau (bach a mawr) yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Trwy gydweithredu byddwch yn sicrhau bod y sylwadau sy'n cael eu mynegi'n cynrychioli'r holl gyflogwyr yn eich diwydiant.


Sut gefais i fy newis?
Dewiswyd eich sefydliad chi ar hap o gyfuniad o Gronfa Ddata Busnesau Market Location (sy'n cyfuno data gan 118 a Thomson) a Chofrestr Ryngadrannol o Fusnesau ONS.


Beth fydd gofyn i mi ei wneud os cyfranogaf?
Os byddwch yn cymryd rhan byddwch yn cael cyfweliad ffôn gyda chyfwelydd o IFF Research, BMG Research neu Ipsos MORI. Ar gyfartaledd, mae'r cyfweliadau'n para tua 20 munud ond gallai hyd y cyfweliad amrywio yn dibynnu ar yr atebion a rowch. Bydd y cyfweliad yn digwydd ar amser sy'n gyfleus i chi.


Pam na allwch chi siarad gyda fy mhrif swyddfa?
Mae'r arolwg yn gofyn am bynciau sy'n ymwneud yn benodol â'ch safle chi er mwyn i ni gael deall sut mae agweddau'n amrywio'n ddaearyddol. O siarad â'ch prif swyddfa, ni fyddem yn cael darlun cyflawn o'r materion ar lefel leol.


Am beth ydych chi'n casglu gwybodaeth?
Rydym yn casglu gwybodaeth am feysydd sy'n cynnwys swyddi gwag, swyddi gwag sy'n anodd eu llenwi, sgiliau'r gweithlu presennol a pha hyfforddiant mae'r cyflogwyr yn ei gynnig.


Sut bydd fy sefydliad i'n elwa o wneud hwn?
Mae'r arolwg yn rhoi cyfle i chi gyfrannu at y gwaith ymchwil, a bydd hyn yn helpu cynllunwyr i ddatblygu polisïau i ateb anghenion sgiliau cyflogwyr.


A fydd fy atebion yn gyfrinachol?
Byddwn yn trin eich atebion yn hollol gyfrinachol o dan God Ymddygiad y Gymdeithas Ymchwilio i'r Farchnad. ac yn unol â'r Ddeddf Diogelu Data (2018) a'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR). Gallwch weld siarter gwybodaeth bersonol yr Adran Addysg yma.

O dan y gyfraith diogelu data, mae gennych yr hawl i dderbyn copi o’ch data, newid eich data neu dynnu allan o’r ymchwil unrhyw bryd. Cliciwch yma os hoffech gysylltu â rhywun mewn perthynas â’ch data.


Sut fyddaf i'n gwybod bod yr asiantaeth ymchwilio sy'n cysylltu â mi'n ddilys?
Mae IFF Research, BMG Research ac Ipsos Mori yn dair asiantaeth fawr hirsefydlog sy'n ymchwilio i'r farchnad. Os byddwch eisiau gwneud yn siŵr bod yr asiantaeth ymchwilio sy'n eich ffonio chi’n gwmni dilys, gallwch ffonio'r Gymdeithas Ymchwilio i'r Farchnad am ddim ar 0800 975 9596.

Mae’r astudiaeth wedi ei chynnwys hefyd ar dudalen yr Adran Addysg ar y we: https://www.gov.uk/government/organisations/department-for-education/about/research


A fyddaf yn cael gweld canlyniadau'r arolwg?
Byddwch. Bydd canlyniadau'r arolwg ar gael i'r cyhoedd ar wefan GOV.UK yn 2023. Os byddwch yn cymryd rhan yn yr arolwg byddwn yn gofyn i chi a hoffech dderbyn adroddiad cryno o ganfyddiadau'r arolwg.


Ymhle allwn i weld canlyniadau'r astudiaeth flaenorol?
Gallwch weld canlyniadau'r astudiaeth flaenorol yn 2019 ar wefan GOV.UK:
Employer Skills Survey 2019: Summary report (publishing.service.gov.uk)

Gallwch weld canlyniadau Arolwg Sgiliau Cyflogwyr yr Alban ar wefan Llywodraeth yr Alban:
Scottish Employer Skills Survey 2020 - gov.scot (www.gov.scot)